Jeremiah 18

Y Crochenydd a'r clai

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi neges arall i Jeremeia: 2“Dos i lawr i weithdy'r crochenydd, a bydda i'n siarad gyda ti yno.” 3Felly dyma fi'n mynd i lawr i'r crochendy, a dyna ble roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell. 4Pan oedd rhywbeth o'i le ar y potyn roedd yn ei wneud o'r clai, byddai'n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn.

5A dyma'r Arglwydd yn rhoi neges i mi: 6“Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae'r clai yn nwylo'r crochenydd. a 7Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig. 8Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud. 9Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog. 10Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.

11“Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr Arglwydd yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’

12“Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”

Y bobl yn gwrthod yr Arglwydd

13Felly dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Gofyn i bobl y gwledydd eraill
os ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!
Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,
wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!
14Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus?
Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.
15Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i.
Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth!
Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdd
a mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.
16O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad.
Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod.
Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychryn
ac yn ysgwyd eu pennau'n syn.
17Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl,
fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain.
Bydda i'n troi cefn arnyn nhw
yn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”

Cynllwyn i ymosod ar Jeremeia

18A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd yn dal gynnon ni offeiriaid i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”

Jeremeia:
19Arglwydd, wnei di ymateb plîs?
Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.
20Ydy'n iawn i dalu drwg am dda?
Maen nhw wedi cloddio twll i mi.
Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'n
pledio ar eu rhan nhw o dy flaen di?
Roeddwn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw.
21Felly gad i'w plant nhw lwgu!
Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel!
Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant.
Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau,
a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel.
22Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y tai
wrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd.
Maen nhw wedi cloddio twll i mi
a gosod trapiau i geisio fy nal.
23Arglwydd, rwyt ti'n gwybod
eu bod nhw'n bwriadu fy lladd i.
Paid maddau iddyn nhw eto.
Paid cuddio eu pechodau nhw o dy olwg.
Gad iddyn nhw faglu o dy flaen.
Delia gyda nhw yn dy ddig.”
Copyright information for CYM